Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Hydref 2013

Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 18 – Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

Diben

1.        Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.

2.        Mae’r adroddiad yn argymell gwneud diwygiadau i Reol Sefydlog 18 mewn perthynas â Chyfrifon Cyhoeddus a goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r Pwyllgor Busnes yn cynnig y dylai’r Cynulliad gytuno i wneud dwy gyfres o ddiwygiadau: byddai’r gyfres gyntaf yn dod i rym ar unwaith (Atodiadau A a B) a byddai’r ail gyfres yn dod i rym ar 1 Ebrill 2014 (Atodiadau C a D).

3.        Mae gwneud y newidiadau mewn dau gam yn sicrhau bod Rheolau Sefydlog y Cynulliad yn cyd-fynd â Gorchymyn Cychwyn y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru). O dan y Gorchymyn, mae rhai o ddarpariaethau’r Ddeddf wedi’u deddfu eisoes, tra y bydd eraill yn dod i rym ar 1 Ebrill 2014.

Cefndir

4.        Cafodd y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (“y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus”) Gydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2013, a gwnaeth Llywodraeth Cymru Orchymyn Cychwyn ym mis Mehefin.

5.        Mae’r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus yn parhau swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn creu corff newydd a fydd yn cael ei alw yn Swyddfa Archwilio Cymru. Mae hefyd yn nodi’r trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd sy’n ymwneud ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

6.        Mae’r Ddeddf yn rhoi nifer o swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. O dan adran 28 o’r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus, caiff y Cynulliad wneud darpariaeth drwy Reolau Sefydlog ynghylch arfer y swyddogaethau a roddir iddo gan y Ddeddf, gan gynnwys “dirprwyo swyddogaethau i’r Llywydd, y Dirprwy Lywydd, i bwyllgor neu is-bwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol neu i gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o’r fath”.

7.        Ar 23 Ebrill, bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried papur ynghylch goblygiadau’r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), gan gynnwys y swyddogaethau y mae’r Ddeddf yn eu rhoi. Mae rhai o’r swyddogaethau hyn yn newydd, ond mae rhai ohonynt yn swyddogaethau yr oedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ymgymryd â hwy o’r blaen o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

8.        Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried cynigion i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog i weithredu’r Ddeddf ac i ddirprwyo rhai o’r swyddogaethau hyn i bwyllgor. 

9.        Ar 7 Mai, yn dilyn ymgynghori â’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, cytunodd y Pwyllgor Busnes mai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddylai fod â’r cyfrifoldeb cychwynnol o gynghori’r Cynulliad ar y penodiadau cyntaf i Swyddfa Archwilio Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10. Gan fod y broses honno wedi’i chwblhau bellach, byddai unrhyw benodiadau yn y dyfodol yn cael eu gwneud o dan y Rheol Sefydlog 18 newydd.

Cynigion ynghylch newid y Rheolau Sefydlog

10.     Mae fersiwn o Reol Sefydlog 18 sy’n dangos y newidiadau arfaethedig i’w gweld yn Atodiadau A ac C, ac mae fersiynau ‘glân’ o’r Rheol Sefydlog arfaethedig newydd i’w gweld yn Atodiadau B a D.

11.     Cynigir y dylid gwneud y newidiadau mewn dau gam, yn unol â darpariaethau’r Gorchymyn Cychwyn. Mae’r wybodaeth isod yn nodi effaith yr holl newidiadau hynny.

Dirprwyo Swyddogaethau i Bwyllgor Cyfrifol

12.     Mae’r Rheol Sefydlog 18 arfaethedig yn nodi cyfrifoldebau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sef ystyried adroddiadau’r Archwilydd Cyffredinol a bwrw ymlaen â hwy, ac mae’n dileu ei swyddogaethau sy’n ymwneud â goruchwylio Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.

13.     Mae’r Rheolau Sefydlog 18.10 ac 18.11 arfaethedig yn dirprwyo nifer o’r swyddogaethau goruchwylio yn y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus, ynghyd â’r rhai yr oedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn eu harfer o’r blaen o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i bwyllgor cyfrifol. 

14.     Mewn rhai achosion, mae’r Rheolau Sefydlog drafft yn dirprwyo’r holl waith o arfer swyddogaeth i’r pwyllgor cyfrifol, ond mewn achosion eraill swyddogaeth gynghori a gaiff ei dirprwyo i’r pwyllgor, gyda’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd yn cadw’r cyfrifoldeb ffurfiol. Er enghraifft, bydd y Cynulliad yn cadw’r cyfrifoldeb ffurfiol dros benodi’r Archwilydd Cyffredinol a Chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, ond gan y pwyllgor cyfrifol y bydd y cyfrifoldeb llawn dros benodi aelodau anweithredol o Swyddfa Archwilio Cymru ac eithrio’r Cadeirydd.

Swyddogaethau anwahanadwy

15.     Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried yn ofalus a ddylai’r Rheolau Sefydlog nodi bod rhaid i’r holl swyddogaethau goruchwylio gael eu dirprwyo i’r un pwyllgor, neu a ddylent ddarparu ar gyfer y posibilrwydd o wahanu’r swyddogaethau rhwng dau bwyllgor neu ragor.

16.     Penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai ei gwneud yn ofynnol i’r holl swyddogaethau gael eu dirprwyo i’r un pwyllgor yn darparu ar gyfer y trefniadau mwyaf effeithiol o graffu ar Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, gan sicrhau bod dull y Cynulliad o oruchwylio yn un cyfannol.  Mae dull gweithredu o’r fath yn cyd-fynd â’r arfer mewn mannau eraill, gan gynnwys San Steffan, yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle y mae pob swyddogaeth o’r fath, gan gynnwys y gwaith o graffu ar y gyllideb, yn cael ei harfer gan yr un pwyllgor neu gomisiwn.

17.     Fel yw’r arfer yn Rheolau Sefydlog eraill y Cynulliad, nid yw’r Rheol Sefydlog 18 newydd arfaethedig yn nodi i ba bwyllgor y dylid dirprwyo’r swyddogaethau. Mae’r dull gweithredu hwn yn rhoi hyblygrwydd i’r Pwyllgor Busnes a’r Cynulliad gynnig eu dirprwyo i unrhyw bwyllgor sy’n bodoli eisoes neu i bwyllgor newydd, a newid y pwyllgor cyfrifol dros amser os bydd o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

18.     Os bydd y Cynulliad yn derbyn y newidiadau arfaethedig, bydd y Cynulliad yn ystyried cynnig y mae’r Pwyllgor Busnes yn ei gyflwyno o dan Reol Sefydlog 16.3 i ddirprwyo’r swyddogaethau yn Rheolau Sefydlog 18.10 ac 18.11 arfaethedig i bwyllgor cyfrifol.

Effaith

19.     Yn unol â Gorchymyn Cychwyn y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus, mae’r Pwyllgor Busnes yn cynnig y dylai’r newidiadau i’r Rheolau Sefydlog a amlinellir yn Atodiadau A a B ddod i rym ar unwaith, ac y dylai’r newidiadau pellach a amlinellir yn Atodiadau C a D ddod i rym ar 1 Ebrill 2014. Gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo’r ddwy gyfres o newidiadau.

Cam i’w gymryd

20.     Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i’r Rheolau Sefydlog ar 16 Ebrill 2013, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo:

·         y cynigion fel y’u nodir yn Atodiad B, sydd i ddod i rym ar unwaith;

·         y cynigion fel y’u nodir yn Atodiad D, sydd i ddod i rym ar 1 Ebrill 2014.

Atodiad A – newidiadau sydd i ddod i rym ar unwaith

RHEOL SEFYDLOG 18 – Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

Diwygio’r Pennawd

Cyffredinol

Nid oes angen ei ddiwygio.

18.1     Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau:

(i)         bod pwyllgor (y cyfeirir ato fel “y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus” yn unol ag adran 30 o’r Ddeddf) sydd â chyfrifoldeb dros y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3; a

(ii)        bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheolau Sefydlog 18.10 ac 18.11 mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn caei ei aseinio i bwyllgor (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 18 fel “pwyllgor cyfrifol”).

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Dim ond am y swyddogaethau yn Rheolau Sefydlog 18.2 ac 18.3 sy’n ymwneud ag ystyried adroddiadau’r Archwilydd Cyffredinol a bwrw ymlaen â hwy y bydd y Pwyllgor Cyfrifon cyhoeddus yn gyfrifol amdanynt, ac mae pwynt (ii) newydd yn caniatáu i’r swyddogaethau goruchwylio yn Rheolau Sefydlog 18.10 ac 18.11 drafft newydd gael eu haseinio i bwyllgor cyfrifol, gan roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor Busnes benderfynu a gânt eu dyrannu i bwyllgor sy’n bodoli eisoes neu i bwyllgor newydd.

Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried yn ofalus a ddylai’r Rheolau Sefydlog nodi bod rhaid i’r holl swyddogaethau goruchwylio gael eu dirprwyo i’r un pwyllgor, neu a ddylent ddarparu ar gyfer y posibilrwydd o rannu’r swyddogaethau rhwng dau bwyllgor neu ragor.

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai ei gwneud yn ofynnol i’r holl swyddogaethau gael eu dirprwyo i’r un pwyllgor yn darparu ar gyfer y trefniadau mwyaf effeithiol o graffu ar Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, gan sicrhau bod dull y Cynulliad o oruchwylio yn un cyfannol.  Mae dull gweithredu o’r fath yn cyd-fynd â’r arfer mewn mannau eraill, gan gynnwys San Steffan, yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle y mae pob swyddogaeth o’r fath, gan gynnwys y gwaith o graffu ar y gyllideb, yn cael ei harfer gan yr un pwyllgor neu gomisiwn.

Fel yw’r arfer yn Rheolau Sefydlog eraill y Cynulliad, nid yw’r Rheol Sefydlog 18 newydd arfaethedig yn nodi i ba bwyllgor y dylid dirprwyo’r swyddogaethau. Mae’r dull gweithredu hwn yn rhoi hyblygrwydd i’r Pwyllgor Busnes a’r Cynulliad gynnig eu dirprwyo i unrhyw bwyllgor sy’n bodoli eisoes neu i bwyllgor newydd, a newid y pwyllgor cyfrifol dros amser os bydd o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

Swyddogaethau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Diwygio’r Pennawd

18.2      Rhaid i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (“y Pwyllgor”):

(i)       arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff 12 o Atodlen 8 i’r Ddeddf ynglŷn â’r prif amcangyfrif o incwm a threuliau a gyflwynir gan yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfer pob blwyddyn ariannol;

(ii)      ystyried unrhyw gynigion cyllideb atodol a gyflwynir o dan adran 126 o’r Ddeddf ac sy’n ceisio diwygio symiau a awdurdodwyd o’r blaen drwy benderfyniad cyllideb neu benderfyniad cyllideb atodol mewn perthynas â’r Archwilydd Cyffredinol;

(iii)     cynghori’r Cynulliad wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan baragraff 14 o Atodlen 8 i’r Ddeddf sy’n ymwneud â phenodi archwilydd cyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol;

(i)       cyflwyno sylwadau i’r Archwilydd Cyffredinol o dro i dro ar sut mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei bwerau i gynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd; a

(ii)      ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau y tu hwnt i’r hyn a awdurdodwyd neu y bernir ei fod wedi’i awdurdodi ac a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig Gweinidogion Cymru, y Comisiwn, yr Archwilydd Cyffredinol, neu’r Ombwdsmon, a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y defnydd hwnnw, gan argymell a ddylai’r Cynulliad awdurdodi’r gormodeddau yn ôl-weithredol drwy gyfrwng penderfyniad cyllideb atodol.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae’r newidiadau arfaethedig yn cymryd yr holl swyddogaethau sy’n ymwneud â goruchwylio Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru oddi ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn eu rhoi i bwyllgor cyfrifol drwy Reolau Sefydlog 18.10 ac 18.11 isod.

Mae’r swyddogaethau a gaiff eu cadw gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ymwneud ag ystyried adroddiadau’r Archwilydd Cyffredinol a bwrw ymlaen â hwy.

18.3     Caiff y Pwyllgor:

(i)         ystyried dogfennau a osodir gerbron y Cynulliad gan yr Archwilydd Cyffredinol neu gan archwilydd y swyddog hwnnw a chyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad ar y dogfennau hynny yn unol ag adran 143(1) o’r Ddeddf;

(ii)        ystyried unrhyw ddogfen arall sy’n ymwneud â rheolaeth ariannol, cyfrifyddu ac archwilio mewn perthynas â gwariant cyhoeddus (ac eithrio’r rhai sy’n ymwneud â llywodraethu mewnol Swyddfa Archwilio Cymru) a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y ddogfen honno; a

(iii)      cymryd tystiolaeth a chyflwyno adroddiadau i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin os bydd y Pwyllgor hwnnw yn gofyn iddo wneud hynny.

(iv)       cynghori archwilydd yr Archwilydd Cyffredinol ar yr archwiliadau i’w cynnal o dan Baragraff 15(6) o Atodlen 8 i’r Ddeddf.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae’r newidiadau arfaethedig yn cymryd yr holl swyddogaethau sy’n ymwneud â goruchwylio Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru oddi ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn eu rhoi i bwyllgor cyfrifol drwy Reolau Sefydlog 18.10 ac 18.11 isod.

Mae’r swyddogaethau a gaiff eu cadw gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ymwneud ag ystyried adroddiadau’r Archwilydd Cyffredinol a bwrw ymlaen â hwy.

18.4     Wrth gyflawni ei gyfrifoldebau o dan Reol Sefydlog 18.3(i) neu 18.3(ii), rhaid i’r Pwyllgor beidio ag amau rhagoriaethau amcanion polisi y llywodraeth, nac amcanion polisi unrhyw gorff neu berson arall sy’n destun adroddiad y Pwyllgor.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Diwygio’r Pennawd

18.5     Mae Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.7 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio bod yn rhaid iddo gynnwys o leiaf 5 aelod a dim mwy na 10 aelod ac na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei gynnig yn aelod o’r Pwyllgor.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

18.6     Mae Rheol Sefydlog 17.21 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio bod yn rhaid iddo beidio â chael ei gadeirio gan Aelod sy’n aelod o grŵp gwleidyddol a chanddo rôl weithredol.

18.7     Mae Rheol Sefydlog 17.48 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei enwebu yn gynrychiolydd.

18.8     Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater os mai ef neu hi oedd yr aelod o’r llywodraeth a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y mater hwnnw ar yr adeg berthnasol.

18.9     Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater a oedd o fewn cyfrifoldeb Pwyllgor y Tŷ (fel yr oedd wedi’i gyfansoddi rhwng 18 Rhagfyr 2002 a 2 Mai 2007), neu sydd o fewn cyfrifoldeb y Comisiwn, os oedd yr aelod ar yr adeg berthnasol yn aelod o Bwyllgor y Tŷ neu o’r Comisiwn.

Swyddogaethau Pwyllgor mewn Perthynas â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

Pennawd newydd

18.10   Rhaid i bwyllgor cyfrifol:

(i)         arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynglŷn â’r amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer pob blwyddyn ariannol;

(ii)        ystyried unrhyw gynigion cyllideb atodol a gyflwynir o dan adran 126 o’r Ddeddf ac sy’n ceisio diwygio symiau a awdurdodwyd o’r blaen drwy benderfyniad cyllideb neu benderfyniad cyllideb atodol mewn perthynas â’r Archwilydd Cyffredinol;

(iii)      ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau y tu hwnt i’r hyn a awdurdodwyd neu y bernir ei fod wedi’i awdurdodi ac a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig yr Archwilydd Cyffredinol, a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y defnydd hwnnw, gan argymell a ddylai’r Cynulliad awdurdodi’r gormodeddau yn ôl-weithredol drwy gyfrwng penderfyniad cyllideb atodol;

(iv)       yn unol â Rheol Sefydlog 10, cynghori’r Cynulliad wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru;

(v)        arfer y swyddogaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo aelodau anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru ac eithrio’r cadeirydd, a dynodi Archwilydd Cyffredinol dros dro. Nid yw Rheol Sefydlog 10 yn gymwys i’r penodiadau hyn;

(vi)       yn unol â Rheol Sefydlog 10, cynghori’r Cynulliad wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan baragraff 14 o Atodlen 8 i’r Ddeddf sy’n ymwneud â phenodi archwilydd cyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol;

(vii)     arfer y swyddogaethau a nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynglŷn â gwneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth o ran y cadeirydd ac aelodau anweithredol eraill Swyddfa Archwilio Cymru;

(viii)    arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraffau 8 a 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad i Swyddfa Archwilio Cymru;

(ix)      arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff 1(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chymeradwyo Cod Ymarfer sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru;

(x)        arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chymeradwyo cynllun ar gyfer codi ffioedd gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r Rheol Sefydlog yn nodi’r swyddogaethau y mae’n rhaid i bwyllgor cyfrifol eu cyflawni. Swyddogaethau yw’r rhain y mae’n rhaid i’r Cynulliad ymgymryd â hwy o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 neu Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ond y caiff eu dirprwyo i bwyllgor drwy’r Rheolau Sefydlog.

Mewn egwyddor, gallai’r Cynulliad ddirprwyo pob agwedd ar y gwaith o arfer y swyddogaethau, ond mewn nifer o achosion ymddengys ei bod yn fwy priodol dirprwyo swyddogaeth gynghori a bod y Cynulliad yn ei gyfanrwydd yn cadw’r pŵer i wneud penderfyniad.

Mae’r Rheol Sefydlog newydd arfaethedig hon yn cynnwys y swyddogaethau hynny a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2013.

Dyma’r swyddogaethau/dyletswyddau:

(i)           Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a oedd yn gwneud hyn o’r blaen o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheolau Sefydlog 18.2(i) a 20.22. Bydd Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gosod amcangyfrif blynyddol ar y cyd gerbron y Cynulliad, y bydd y pwyllgor yn ei ystyried wedyn. O dan Reol Sefydlog 20.22, rhaid i’r pwyllgor gynnwys yr amcangyfrif – gan gynnwys unrhyw ddiwygiadau – yn ei adroddiad i’r Cynulliad.

(ii)          Daw’r swyddogaeth hon o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a oedd yn ymgymryd â hi o’r blaen o dan Reol Sefydlog 18.2(ii). Bydd y pwyllgor yn craffu ar unrhyw gynnig cyllideb atodol mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru, yn yr un modd ag y gwna’r Pwyllgor Cyllid yn achos cynigion cyllideb atodol sy’n ymwneud â’r Llywodraeth neu Gomisiwn y Cynulliad. Cedwir y cyfeiriad at yr Archwilydd Cyffredinol, yn hytrach na Swyddfa Archwilio Cymru, tan fis Ebrill 2014, gan mai dyna pryd y bydd y trefniadau ariannol newydd yn dod i rym.

(iii)         Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a oedd yn gwneud hyn o’r blaen o dan Reol Sefydlog 18.2(v). Y Pwyllgor Cyllid sy’n ymgymryd â’r swyddogaeth hon mewn perthynas â’r Llywodraeth, Comisiwn y Cynulliad a’r Ombwdsmon. Gan y byddai unrhyw ormodedd yn ymddangos yng nghyfrifon archwiliedig Swyddfa Archwilio Cymru, y pwyllgor cyfrifol fyddai’n ymgymryd â’r swyddogaeth hon mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru. Cedwir y cyfeiriad at yr Archwilydd Cyffredinol, yn hytrach na Swyddfa Archwilio Cymru, tan fis Ebrill 2014, gan mai dyna pryd y bydd y trefniadau ariannol newydd yn dod i rym.

(iv)         Mae Rheol Sefydlog 10 yn nodi gweithdrefn ar gyfer gwneud penodiadau cyhoeddus gan y Cynulliad. Gwneir penodiadau drwy benderfyniad y Cynulliad, a gall pwyllgor perthnasol ystyried yr enwebiad a chynghori’r Cynulliad. Yn achos penodiad Archwilydd Cyffredinol Cymru a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, y pwyllgor cyfrifol fyddai hwnnw o dan Reol Sefydlog 18. Roedd y Rheolwyr Busnes o’r farn, o ystyried pwysigrwydd y ddau benodiad hyn, y dylai’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd gadw’r swyddogaeth hon, gyda’r pwyllgor cyfrifol yn cyflawni rôl gynghori. Fodd bynnag, ni fydd y swyddogaeth yn y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) ynghylch penodi’r Archwilydd Cyffredinol yn dod i rym tan fis Ebrill 2014, ac felly bydd yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng diwygiad pellach bryd hynny.

(v)          O dan y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), y Cynulliad sy’n gyfrifol am wneud y penodiadau hyn. Roedd y Rheolwyr Busnes o’r farn y byddai’n briodol dirprwyo’r swyddogaethau hyn yn eu cyfanrwydd i’r pwyllgor cyfrifol. Felly, caiff Rheol Sefydlog 10 ei datgymhwyso.

(vi)         Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a oedd yn gwneud hyn o’r blaen mewn perthynas â chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan Reol Sefydlog 18.2(iii). Ni fydd swyddogaeth y Cynulliad o dan y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) mewn perthynas â phenodi archwilydd cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru yn dod i rym tan fis Ebrill 2014, ac felly caiff rôl gynghori’r pwyllgor ei chadw tan yr adeg honno, pan fydd yn ymgymryd â’r cyfrifoldeb llawn dros benodi.

(vii)        Mae’r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynulliad wneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth o ran yr Archwilydd Cyffredinol ac aelodau anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru, gan gynnwys y Cadeirydd. Mae’r Rheol Sefydlog ddrafft yn dirprwyo’r swyddogaeth honno i’r pwyllgor cyfrifol. Mae’r swyddogaethau sy’n ymwneud ag aelodau o Swyddfa Archwilio Cymru eisoes ar waith, tra y bydd y swyddogaeth sy’n berthnasol i’r Archwilydd Cyffredinol yn dod i rym o fis Ebrill 2014, ac felly caiff ei gyflwyno gan ddiwygiad pellach bryd hynny.

(viii)      Mae’r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) yn caniatáu i’r Cynulliad bennu telerau penodi ar gyfer aelodau o Swyddfa Archwilio Cymru, ac eithrio o ran talu cydnabyddiaeth. Mae’r Rheol Sefydlog ddrafft yn dirprwyo’r swyddogaeth honno i’r pwyllgor cyfrifol.

(ix)         Rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol lunio cod ymarfer ar y cyd sy’n ymdrin â’r berthynas rhyngddynt, y mae’n rhaid i’r Cynulliad ei gymeradwyo. Mae’r Rheol Sefydlog ddrafft yn dirprwyo’r swyddogaeth honno i’r pwyllgor cyfrifol.

(x)          Mae’r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddfa Archwilio Cymru lunio cynllun ar gyfer codi ffioedd gan Swyddfa Archwilio Cymru, y mae’n rhaid i’r Cynulliad Cenedlaethol ei gymeradwyo. Mae’r Rheol Sefydlog ddrafft yn dirprwyo’r swyddogaeth honno i’r pwyllgor cyfrifol.

18.11 Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried materion ynghylch llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru ac ynghylch goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol, gan gynnwys:

(i)         ystyried y Cynllun Blynyddol a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru gerbron y Cynulliad o dan adran 26 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y cynllun hwnnw;

(ii)        cynghori archwilydd yr Archwilydd Cyffredinol ar yr ymchwiliadau sydd i’w cynnal o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i’r Ddeddf.

Rheol Sefydlog newydd

Mae’r swyddogaethau hyn yn rhoi pŵer galluogi eang i’r pwyllgor cyfrifol mewn perthynas ag unrhyw faterion llywodraethu neu oruchwylio yn ogystal â rhestru pwerau galluogi mwy penodol pan fo’r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) yn nodi y ‘caiff’ y Cynulliad wneud rhywbeth neu fod rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru/Swyddfa Archwilio Cymru neu eu Harchwilwyr osod dogfennau gerbron y Cynulliad, gan roi drwy hynny y dewis i’r pwyllgor cyfrifol fwrw ymlaen â’r rhain.

Mae Rheol Sefydlog 18.11 (i) yn swyddogaeth newydd o dan y Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), tra bo (ii) yn swyddogaeth yr oedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoedus yn ymgymryd â hi o’r blaen o dan Reol Sefydlog 18.2(ii).

Newidiadau Canlyniadol   

Y Weithdrefn Ariannol

Nid oes angen ei ddiwygio.

Yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae hyn yn adlewyrchu’r newid o’r Archwilydd Cyffredinol i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru.

20.21   Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru osod gyflwyno’r yr amcangyfrif o incwm a gwariant sy’n ofynnol o dan adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 baragraff 12 o Atodlen 8 i’r Ddeddf i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gerbron y Cynulliad, a hynny ar y cyd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ond heb fod yn hwyrach na 1 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol beth bynnag.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae’r diwygiadau arfaethedig yn adlewyrchu’r dyletswyddau statudol sy’n codi bellach o’r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru), yn hytrach na Deddf Llywodraeth Cymru 2006, a’r ffaith y gellir erbyn hyn ddyrannu’r gwaith o ystyried yr amcangyfrifon o incwm a gwariant i bwyllgor cyfrifol ar wahân i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

20.22   Rhaid i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(i) ystyried adroddiad sy’n cynnwys yr amcangyfrif a’i osod gerbron y Cynulliad heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol, ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ganddo ganddynt.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae’r diwygiadau arfaethedig yn nodi bod rhaid i’r gwaith o ystyried yr amcangyfrifon o incwm a gwariant gael ei ddyrannu bellach i bwyllgor cyfrifol ar wahân i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a’r ffaith y bydd yr amcangyfrif wedi’i osod eisoes o dan Reol Sefydlog 20.21; felly, bydd y pwyllgor yn hytrach yn gosod adroddiad sydd â’r amcangyfrif (diwygiedig) yn rhan ohono.

Cynigion Cyllideb Blynyddol

Nid oes angen ei ddiwygio.

20.25   Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol sy’n ofynnol o dan adran 125 o’r Ddeddf gael ei gyflwyno gan un o Weinidogion Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6).

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.26 Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol ymgorffori:

(i)      cyllideb derfynol y llywodraeth;

(ii)     cyllideb derfynol y Comisiwn fel y cytunwyd arni gan y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.16 neu 20.17, neu fel y’i pennwyd o dan Reol Sefydlog 20.19;

(iii)    amcangyfrif yr Archwilydd CyffredinolSwyddfa Archwilio Cymru, fel y’i gosodwyd gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.22; a

(iv)     amcangyfrif yr Ombwdsmon, fel y’i gosodwyd gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.24.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Caiff is-bwynt (iii) ei ddiwygio i adlewyrchu’r ffaith mai amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru fydd hwn bellach, sef yr amcangyfrif sydd wedi’i gynnwys yn adroddiad y pwyllgor cyfrifol.

20.27   Caiff cynnig cyllideb blynyddol ymgorffori hefyd unrhyw gynnig ar gyfer penderfyniad sydd i’w wneud ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol o dan adran 120(2)(a) o’r Ddeddf.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.28   Rhaid i’r wybodaeth a gynhyrchir i ategu cynnig cyllideb blynyddol gynnwys y canlynol o leiaf:

(i)         y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o’r Ddeddf;

(ii)       yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb y bloc Cymreig am y flwyddyn ariannol sydd o dan sylw yn y cynnig;

(iii)      cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb y bloc Cymreig gan y Trysorlys a’r adnoddau sydd i’w hawdurdodi i’w defnyddio yn y cynnig;

(iv)      cysoniad rhwng yr amcangyfrif o’r symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v)        cysoniad rhwng yr adnoddau sydd i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

20.29   Dim ond un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig cyllideb blynyddol. Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig cyllideb blynyddol. 

Cynigion Cyllideb Atodol

Nid oes angen ei ddiwygio.

20.30   Caiff un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol o dan adran 126 ar unrhyw adeg ar ôl i’r cynnig cyllideb blynyddol gael ei basio.

20.31   Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i ategu cynnig cyllideb atodol gynnwys unrhyw amrywiadau ar yr hyn a ddarparwyd yn unol â Rheol Sefydlog 20.28.

20.32 Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb y Comisiwn, rhaid i aelod o’r Comisiwn osod memorandwm esboniadol yn nodi pam mae angen yr amrywiad.

20.33   Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.30 gael ei wneud naill ai:

(i)      nes bod y pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)     nes bod tair wythnos wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw’r pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

20.34   Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell newidiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol ar yr amod na fyddai effaith net yr amrywiadau hynny’n cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol.

20.35   Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb yr Archwilydd Cyffredinol:

(i)       rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddarparu memorandwm esboniadol i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn nodi pam mae angen amrywio’r gyllideb;

(ii)      caiff y pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) gyflwyno adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i’r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i’r amrywiad arfaethedig sy’n briodol ym marn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii), ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Adlewyrchir y newid o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i bwyllgor cyfrifol. Bydd unrhyw gynigion cyllideb atodol ar gyfer y flwyddyn 2013-14 yn cyfeirio at gyllideb yr Archwilydd Cyffredinol yn hytrach na Swyddfa Archwilio Cymru, ac felly cynigir newid pellach i’r Rheol Sefydlog hon ar gyfer mis Ebrill 2014.

20.36   Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb yr Ombwdsmon:

(i)            rhaid i’r Ombwdsmon ddarparu memorandwm esboniadol i’r pwyllgor cyfrifol yn nodi pam mae angen amrywio’r gyllideb;

(ii)           caiff y pwyllgor cyfrifol gyflwyno gerbron y Cynulliad adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i’r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i’r amrywiad arfaethedig sy’n briodol ym marn y Pwyllgor Cyllid, ar ôl iddo ymgynghori â’r Ombwdsmon ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.37   Dim ond un o Weinidogion Cymru sy’n cael gwneud cynnig cyllideb atodol. Ni chaniateir i welliannau gael eu cyflwyno na’u cynnig ac eithrio gan un o Weinidogion Cymru. 

Defnyddio Gormod o Adnoddau

Nid oes angen ei ddiwygio.

20.38  Mae Rheol Sefydlog 20.39 yn gymwys os bydd cyfrifon archwiliedig y Comisiwn, yr Archwilydd Cyffredinol neu’r Ombwdsmon ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol yn cofnodi bod gormod o adnoddau wedi’u defnyddio o gymharu â’r symiau a awdurdodwyd neu y barnwyd o dan y Ddeddf eu bod wedi’u hawdurdodi gan benderfyniadau cyllideb y Cynulliad.

20.39   Os bydd y Comisiwn, yr Archwilydd Cyffredinol neu’r Ombwdsmon yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol yn gofyn am awdurdodiad ôl-weithredol ar gyfer gormodeddau a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig y person hwnnw.

20.40   Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.39 gael ei wneud naill ai:

(i)      nes bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw’n ymwneud â’r Archwilydd Cyffredinol, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)      nes bod chwe mis wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw’n ymwneud â’r Archwilydd Cyffredinol, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith y byddai’r swyddogaeth hon yn Rheol Sefydlog 18 newydd ddrafft yn cael ei harfer gan y pwyllgor cyfrifol, yn hytrach na’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

20.41   Nid yw Rheolau Sefydlog 20.30 i 20.36 yn gymwys i gynigion a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.39.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Atodiad B

RHEOL SEFYDLOG 18 – Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

Cyffredinol

18.1   Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau:

(i)            bod pwyllgor (y cyfeirir ato fel “y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus” yn unol ag adran 30 o’r Ddeddf) sydd â chyfrifoldeb dros y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3; a

(ii)          bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheolau Sefydlog 18.10 a 18.11 mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cael ei aseinio i bwyllgor (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 18 fel “pwyllgor cyfrifol”).

Swyddogaethau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

18.2  Rhaid i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (“y Pwyllgor”):

(i)     cyflwyno sylwadau i’r Archwilydd Cyffredinol o dro i dro ar sut mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei bwerau i gynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd; a

(ii)    ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau y tu hwnt i’r hyn a awdurdodwyd neu y bernir ei fod wedi’i awdurdodi ac a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig Gweinidogion Cymru, y Comisiwn, neu’r Ombwdsmon, a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y defnydd hwnnw, gan argymell a ddylai’r Cynulliad awdurdodi’r gormodeddau yn ôl-weithredol drwy gyfrwng penderfyniad cyllideb atodol.

18.3   Caiff y Pwyllgor:

(i)        ystyried dogfennau a osodir gerbron y Cynulliad gan yr Archwilydd Cyffredinol a chyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad ar y dogfennau hynny yn unol ag adran 143(1) o’r Ddeddf;

(ii)       ystyried unrhyw ddogfen arall sy’n ymwneud â rheolaeth ariannol, cyfrifyddu ac archwilio mewn perthynas â gwariant cyhoeddus (ac eithrio’r rhai sy’n ymwneud â llywodraethu mewnol Swyddfa Archwilio Cymru) a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y ddogfen honno; a

(iii)      cymryd tystiolaeth a chyflwyno adroddiadau i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin os bydd y Pwyllgor hwnnw yn gofyn iddo wneud hynny.

18.4   Wrth gyflawni ei gyfrifoldebau o dan Reol Sefydlog 18.3(i) neu 18.3(ii), rhaid i’r Pwyllgor beidio ag amau rhagoriaethau amcanion polisi y llywodraeth, nac amcanion polisi unrhyw gorff neu berson arall sy’n destun adroddiad y Pwyllgor.

Aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

18.5  Mae Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.7 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio bod yn rhaid iddo gynnwys o leiaf 5 aelod a dim mwy na 10 aelod ac na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei gynnig yn aelod o’r Pwyllgor.

18.6  Mae Rheol Sefydlog 17.21 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio bod yn rhaid iddo beidio â chael ei gadeirio gan Aelod sy’n aelod o grŵp gwleidyddol a chanddo rôl weithredol.

18.7  Mae Rheol Sefydlog 17.48 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei enwebu yn gynrychiolydd.

18.8  Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater os mai ef neu hi oedd yr aelod o’r llywodraeth a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y mater hwnnw ar yr adeg berthnasol.

18.9  Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater a oedd o fewn cyfrifoldeb Pwyllgor y Tŷ (fel yr oedd wedi’i gyfansoddi rhwng 18 Rhagfyr 2002 a 2 Mai 2007), neu sydd o fewn cyfrifoldeb y Comisiwn, os oedd yr aelod ar yr adeg berthnasol yn aelod o Bwyllgor y Tŷ neu o’r Comisiwn.

Swyddogaethau Pwyllgor mewn Perthynas â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

18.10 Rhaid i bwyllgor cyfrifol:

(i)        arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynglŷn â’r amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer pob blwyddyn ariannol;

(ii)       ystyried unrhyw gynigion cyllideb atodol a gyflwynir o dan adran 126 o’r Ddeddf ac sy’n ceisio diwygio symiau a awdurdodwyd o’r blaen drwy benderfyniad cyllideb neu benderfyniad cyllideb atodol mewn perthynas â’r Archwilydd Cyffredinol;

(iii)      ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau y tu hwnt i’r hyn a awdurdodwyd neu y bernir ei fod wedi’i awdurdodi ac a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig yr Archwilydd Cyffredinol, a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y defnydd hwnnw, gan argymell a ddylai’r Cynulliad awdurdodi’r gormodeddau yn ôl-weithredol drwy gyfrwng penderfyniad cyllideb atodol;

(iv)      yn unol â Rheol Sefydlog 10, cynghori’r Cynulliad wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru;

(v)       arfer y swyddogaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo aelodau anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru ac eithrio’r cadeirydd, a dynodi Archwilydd Cyffredinol dros dro.  Nid yw Rheol Sefydlog 10 yn gymwys i’r penodiadau hyn;

(vi)      yn unol â Rheol Sefydlog 10, cynghori’r Cynulliad wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan baragraff 14 o Atodlen 8 i’r Ddeddf sy’n ymwneud â phenodi archwilydd cyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol;

(vii)    arfer y swyddogaethau a nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynglŷn â gwneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth o ran y cadeirydd ac aelodau anweithredol eraill Swyddfa Archwilio Cymru;

(viii)   arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraffau 8 a 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad i Swyddfa Archwilio Cymru;

(ix)     arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff 1(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chymeradwyo Cod Ymarfer sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru;

(x)       arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chymeradwyo cynllun ar gyfer codi ffioedd gan Swyddfa Archwilio Cymru.

18.11 Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried materion ynghylch llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru ac ynghylch goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol, gan gynnwys:

(i)        ystyried y Cynllun Blynyddol a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru gerbron y Cynulliad o dan adran 26 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y cynllun hwnnw;

(ii)       cynghori archwilydd yr Archwilydd Cyffredinol ar yr ymchwiliadau sydd i’w cynnal o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i’r Ddeddf.

Newidiadau Canlyniadol

Y Weithdrefn Ariannol

Yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru

20.21 Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru osod yr amcangyfrif o incwm a gwariant sy’n ofynnol o dan adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 gerbron y Cynulliad, a hynny ar y cyd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ond heb fod yn hwyrach na 1 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol beth bynnag.

20.22 Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(i) ystyried adroddiad sy’n cynnwys yr amcangyfrif a’i osod gerbron y Cynulliad heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol, ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ganddynt.

Cynigion Cyllideb Blynyddol

20.25 Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol sy’n ofynnol o dan adran 125 o’r Ddeddf gael ei gyflwyno gan un o Weinidogion Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6). 

20.26 Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol ymgorffori:

(i)     cyllideb derfynol y llywodraeth;

(ii)    cyllideb derfynol y Comisiwn fel y cytunwyd arni gan y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.16 neu 20.17, neu fel y’i pennwyd o dan Reol Sefydlog 20.19;

(iii)   amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru, fel y’i gosodwyd gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.22; a

(iv)    amcangyfrif yr Ombwdsmon, fel y’i gosodwyd gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.24.

20.27 Caiff cynnig cyllideb blynyddol ymgorffori hefyd unrhyw gynnig ar gyfer penderfyniad sydd i’w wneud ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol o dan adran 120(2)(a) o’r Ddeddf.

20.28 Rhaid i’r wybodaeth a gynhyrchir i ategu cynnig cyllideb blynyddol gynnwys y canlynol o leiaf:

(i)        y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o’r Ddeddf;

(ii)       yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb y bloc Cymreig am y flwyddyn ariannol sydd o dan sylw yn y cynnig;

(iii)     cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb y bloc Cymreig gan y Trysorlys a’r adnoddau sydd i’w hawdurdodi i’w defnyddio yn y cynnig;

(iv)     cysoniad rhwng yr amcangyfrif o’r symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v)       cysoniad rhwng yr adnoddau sydd i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

20.29 Dim ond un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig cyllideb blynyddol. Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig cyllideb blynyddol. 

Cynigion Cyllideb Atodol

20.30 Caiff un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol o dan adran 126 ar unrhyw adeg ar ôl i’r cynnig cyllideb blynyddol gael ei basio.

20.31 Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i ategu cynnig cyllideb atodol gynnwys unrhyw amrywiadau ar yr hyn a ddarparwyd yn unol â Rheol Sefydlog 20.28.

20.32 Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb y Comisiwn, rhaid i aelod o’r Comisiwn osod memorandwm esboniadol yn nodi pam mae angen yr amrywiad.

20.33 Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.30 gael ei wneud naill ai:

(i)       nes bod y pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)      nes bod tair wythnos wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw’r pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

20.34 Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell newidiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol ar yr amod na fyddai effaith net yr amrywiadau hynny’n cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol.

20.35 Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb yr Archwilydd Cyffredinol:

(i)     rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ddarparu memorandwm esboniadol i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) yn nodi pam mae angen amrywio’r gyllideb;

(ii)    caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) gyflwyno adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i’r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i’r amrywiad arfaethedig sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii), ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.

20.36 Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb yr Ombwdsmon:

(i)            rhaid i’r Ombwdsmon ddarparu memorandwm esboniadol i’r pwyllgor cyfrifol yn nodi pam mae angen amrywio’r gyllideb;

(ii)          caiff y pwyllgor cyfrifol gyflwyno gerbron y Cynulliad adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i’r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i’r amrywiad arfaethedig sy’n briodol ym marn y Pwyllgor Cyllid, ar ôl iddo ymgynghori â’r Ombwdsmon ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.

20.37 Dim ond un o Weinidogion Cymru sy’n cael gwneud cynnig cyllideb atodol.  Ni chaniateir i welliannau gael eu cyflwyno na’u cynnig ac eithrio gan un o Weinidogion Cymru. 

Defnyddio Gormod o Adnoddau

20.38 Mae Rheol Sefydlog 20.39 yn gymwys os bydd cyfrifon archwiliedig y Comisiwn, yr Archwilydd Cyffredinol neu’r Ombwdsmon ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol yn cofnodi bod gormod o adnoddau wedi’u defnyddio o gymharu â’r symiau a awdurdodwyd neu y barnwyd o dan y Ddeddf eu bod wedi’u hawdurdodi gan benderfyniadau cyllideb y Cynulliad.

20.39 Os bydd y Comisiwn, yr Archwilydd Cyffredinol neu’r Ombwdsmon yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol yn gofyn am awdurdodiad ôl-weithredol ar gyfer gormodeddau a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig y person hwnnw.

20.40 Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.39 gael ei wneud naill ai:

(i)     nes bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw’n ymwneud â’r Archwilydd Cyffredinol, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)    nes bod chwe mis wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw’n ymwneud â’r Archwilydd Cyffredinol, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

20.41 Nid yw Rheolau Sefydlog 20.30 i 20.36 yn gymwys i gynigion a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.39.

Atodiad C – newidiadau sydd i ddod i rym ym mis Ebrill 2014

RHEOL SEFYDLOG 18 – Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

Nid oes angen ei ddiwygio.

Cyffredinol

Nid oes angen ei ddiwygio.

18.1     Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau:

(i)         bod pwyllgor (y cyfeirir ato fel “y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus” yn unol ag adran 30 o’r Ddeddf) sydd â chyfrifoldeb dros y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3; a

(ii)        bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheolau Sefydlog 18.10 a 18.11 mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cael ei aseinio i bwyllgor (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 18 fel “pwyllgor cyfrifol”).

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Swyddogaethau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Nid oes angen ei ddiwygio.

18.2      Rhaid i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (“y Pwyllgor”):

(i)       cyflwyno sylwadau i’r Archwilydd Cyffredinol o dro i dro ar sut mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei bwerau i gynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd; a

(ii)      ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau y tu hwnt i’r hyn a awdurdodwyd neu y bernir ei fod wedi’i awdurdodi ac a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig Gweinidogion Cymru, y Comisiwn, neu’r Ombwdsmon, a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y defnydd hwnnw, gan argymell a ddylai’r Cynulliad awdurdodi’r gormodeddau yn ôl-weithredol drwy gyfrwng penderfyniad cyllideb atodol.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

18.3     Caiff y Pwyllgor:

(i)         ystyried dogfennau a osodir gerbron y Cynulliad gan yr Archwilydd Cyffredinol a chyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad ar y dogfennau hynny yn unol ag adran 143(1) o’r Ddeddf;

(ii)        ystyried unrhyw ddogfen arall sy’n ymwneud â rheolaeth ariannol, cyfrifyddu ac archwilio mewn perthynas â gwariant cyhoeddus (ac eithrio’r rhai sy’n ymwneud â llywodraethu mewnol Swyddfa Archwilio Cymru) a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y ddogfen honno; a

(iii)      cymryd tystiolaeth a chyflwyno adroddiadau i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin os bydd y Pwyllgor hwnnw yn gofyn iddo wneud hynny.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

18.4     Wrth gyflawni ei gyfrifoldebau o dan Reol Sefydlog 18.3(i) neu 18.3(ii), rhaid i’r Pwyllgor beidio ag amau rhagoriaethau amcanion polisi y llywodraeth, nac amcanion polisi unrhyw gorff neu berson arall sy’n destun adroddiad y Pwyllgor.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Nid oes angen ei ddiwygio.

18.5     Mae Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.7 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio bod yn rhaid iddo gynnwys o leiaf 5 aelod a dim mwy na 10 aelod ac na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei gynnig yn aelod o’r Pwyllgor.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

18.6     Mae Rheol Sefydlog 17.21 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio bod yn rhaid iddo beidio â chael ei gadeirio gan Aelod sy’n aelod o grŵp gwleidyddol a chanddo rôl weithredol.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

18.7     Mae Rheol Sefydlog 17.48 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei enwebu yn gynrychiolydd.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

18.8     Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater os mai ef neu hi oedd yr aelod o’r llywodraeth a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y mater hwnnw ar yr adeg berthnasol.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

18.9     Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater a oedd o fewn cyfrifoldeb Pwyllgor y Tŷ (fel yr oedd wedi’i gyfansoddi rhwng 18 Rhagfyr 2002 a 2 Mai 2007), neu sydd o fewn cyfrifoldeb y Comisiwn, os oedd yr aelod ar yr adeg berthnasol yn aelod o Bwyllgor y Tŷ neu o’r Comisiwn.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Swyddogaethau Pwyllgor mewn Perthynas â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

Nid oes angen ei ddiwygio.

18.10   Rhaid i bwyllgor cyfrifol:

(i)            arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynglŷn â’r amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer pob blwyddyn ariannol;

(ii)           ystyried unrhyw gynigion cyllideb atodol a gyflwynir o dan adran 126 o’r Ddeddf ac sy’n ceisio diwygio symiau a awdurdodwyd o’r blaen drwy benderfyniad cyllideb neu benderfyniad cyllideb atodol mewn perthynas â’r Archwilydd Cyffredinol â Swyddfa Archwilio Cymru;

(iii)          ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau y tu hwnt i’r hyn a awdurdodwyd neu y bernir ei fod wedi’i awdurdodi ac a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig yr Archwilydd Cyffredinol Swyddfa Archwilio Cymru, a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y defnydd hwnnw, gan argymell a ddylai’r Cynulliad awdurdodi’r gormodeddau yn ôl-weithredol drwy gyfrwng penderfyniad cyllideb atodol;

(iv)          yn unol â Rheol Sefydlog 10, cynghori’r Cynulliad wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru;

(v)           arfer y swyddogaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo aelodau anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru ac eithrio’r cadeirydd, a dynodi Archwilydd Cyffredinol dros dro.  Nid yw Rheol Sefydlog 10 yn gymwys i’r penodiadau hyn;

(vi)          yn unol â Rheol Sefydlog 10, cynghori’r Cynulliad wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan baragraff 14 o Atodlen 8 i’r Ddeddf sy’n ymwneud â phenodi archwilydd cyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol;arfer y swyddogaethau o dan baragraff 34 o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi archwilydd cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru. Nid yw Rheol Sefydlog 10 yn gymwys i’r penodiad hwn;

(vii)         arfer y swyddogaethau a nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynglŷn â gwneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth o ran yr Archwilydd Cyffredinol, ac o ran y cadeirydd ac aelodau anweithredol eraill Swyddfa Archwilio Cymru;

(viii)       arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraffau 8 a 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad i Swyddfa Archwilio Cymru;

(ix)          arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff 1(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chymeradwyo Cod Ymarfer sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru;

(x)           arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chymeradwyo cynllun ar gyfer codi ffioedd gan Swyddfa Archwilio Cymru;

(xi)          arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 5(3) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chyhoeddi rhestr o swyddi, cytundebau a threfniadau eraill a bennir at ddibenion adran 5(2) o’r Ddeddf honno.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae’r Rheol Sefydlog yn nodi’r swyddogaethau y mae’n rhaid i bwyllgor eu cyflawni. Swyddogaethau yw’r rhain y mae’n rhaid i’r Cynulliad ymgymryd â hwy o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 neu Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ond y caiff eu dirprwyo i bwyllgor drwy’r Rheolau Sefydlog.

Mae’r diwygiadau yn ychwanegu’r swyddogaethau hynny sy’n dod i rym ym mis Ebrill 2014 at gylch gwaith y pwyllgor cyfrifol, ac maent yn newid cyfeiriadau at yr Archwilydd Cyffredinol i gyfeiriadau at Swyddfa Archwilio Cymru, pan fo’n briodol, yn ogystal â chynnwys cyfeiriadau at yr Archwilydd Cyffredinol yn y swyddogaethau hynny sy’n berthnasol i’r broses benodi ac i’r broses o wneud trefniadau o ran talu cydnabyddiaeth.

Mae’r newid i (vi) yn adlewyrchu’r ffaith bod y swyddogaeth hon yn dod i rym mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013; cyn hynny, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 y cyflawnwyd y swyddogaeth, a hynny mewn perthynas â chyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol. Arferai’r pwyllgor weithredu’r swyddogaeth o gynghori’r Cynulliad ar benodiad archwilydd cyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol. Roedd y Rheolwyr Busnes o’r farn y byddai’n briodol i’r pwyllgor cyfrifol arfer y swyddogaeth hon yn llawn yn y dyfodol, ac felly ni fydd darpariaethau Rheol Sefydlog 10 yn gymwys.

Mae pwynt (xi) newydd yn dirprwyo’r swyddogaeth o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Cynulliad gyhoeddi rhestr o swyddi, cytundebau a threfniadau eraill na all unigolyn sydd wedi bod yn Archwilydd Cyffredinol ymgymryd â hwy neu ymrwymo iddynt. Mae’r Rheol Sefydlog arfaethedig yn dirprwyo’r  cyfrifoldeb dros lunio rhestr o’r fath i’r pwyllgor cyfrifol.

18.11  Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried materion ynghylch llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru ac ynghylch goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol, gan gynnwys:

(i)         ystyried y Cynllun Blynyddol a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru gerbron y Cynulliad o dan adran 26 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y cynllun hwnnw;

(ii)        cynghori archwilydd yr Archwilydd Cyffredinol ar yr ymchwiliadau sydd i’w cynnal o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i’r Ddeddf.cynghori archwilydd Swyddfa Archwilio Cymru ar yr ymchwiliadau sydd i’w cynnal o dan baragraff 35(7) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;

(iii)      ystyried dogfennau a osodir gerbron y Cynulliad gan archwilydd cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru o dan baragraffau 35(2) a 35(7) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad ar y dogfennau hynny;

(iv)       ystyried yr Adroddiad Blynyddol ac unrhyw adroddiadau interim a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru gerbron y Cynulliad o dan baragraff 3(6) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad ar yr adroddiadau hynny;

(v)        pennu dyddiadau i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru osod adroddiadau interim ar y cyd gerbron y Cynulliad, yn unol â Pharagraff 3(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae’r swyddogaethau hyn yn rhoi pŵer galluogi eang i’r pwyllgor cyfrifol mewn perthynas ag unrhyw faterion goruchwylio neu lywodraethu yn ogystal â rhestru pwerau galluogi mwy penodol pan fo Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 yn nodi y ‘caiff’ y Cynulliad wneud rhywbeth neu bod rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru/Swyddfa Archwilio Cymru neu eu harchwilwyr osod dogfennau gerbron y Cynulliad, a thrwy hynny rhoddir y dewis i’r pwyllgor cyfrifol fwrw ymlaen â’r rhain.

Mae’r newidiadau’n adlewyrchu’r swyddogaethau newydd o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n dod i rym o fis Ebrill 2014. Mae’r diwygiad i Reol Sefydlog 18.11(ii) yn adlewyrchu’r ffaith y bydd y swyddogaeth hon bellach yn cael ei harfer o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 yn hytrach na Deddf Llywodraeth Cymru 2006, a bydd yn ymwneud â chyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru yn hytrach nag Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Newidiadau Canlyniadol

Y Weithdrefn Ariannol

Nid oes angen ei ddiwygio.

Yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru

Nid oes angen ei ddiwygio.

20.21   Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru osod yr amcangyfrif o incwm a gwariant sy’n ofynnol o dan Adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 gerbron y Cynulliad, a hynny ar y cyd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ond heb fod yn hwyrach na 1 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol beth bynnag.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.22   Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(i) ystyried adroddiad sy’n cynnwys yr amcangyfrif a’i osod gerbron y Cynulliad heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol, ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ganddynt.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Cynigion Cyllideb Blynyddol

Nid oes angen ei ddiwygio.

20.25   Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol sy’n ofynnol o dan adran 125 o’r Ddeddf gael ei gyflwyno gan un o Weinidogion Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6).

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.26 Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol ymgorffori:

(i)      cyllideb derfynol y llywodraeth;

(ii)     cyllideb derfynol y Comisiwn fel y cytunwyd arni gan y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.16 neu 20.17, neu fel y’i pennwyd o dan Reol Sefydlog 20.19;

(iii)    amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru, fel y’i gosodwyd gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.22; a

(iv)     amcangyfrif yr Ombwdsmon, fel y’i gosodwyd gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.24.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.27   Caiff cynnig cyllideb blynyddol ymgorffori hefyd unrhyw gynnig ar gyfer penderfyniad sydd i’w wneud ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol o dan adran 120(2)(a) o’r Ddeddf.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.28   Rhaid i’r wybodaeth a gynhyrchir i ategu cynnig cyllideb blynyddol gynnwys y canlynol o leiaf:

(i)            y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o’r Ddeddf;

(ii)           yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb y bloc Cymreig am y flwyddyn ariannol sydd o dan sylw yn y cynnig;

(iii)         cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb y bloc Cymreig gan y Trysorlys a’r adnoddau sydd i’w hawdurdodi i’w defnyddio yn y cynnig;

(iv)          cysoniad rhwng yr amcangyfrif o’r symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v)           cysoniad rhwng yr adnoddau sydd i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.29   Dim ond un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig cyllideb blynyddol. Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig cyllideb blynyddol. 

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Cynigion Cyllideb Atodol

Cadw’r pennawd hwn.

20.30   Caiff un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol o dan adran 126 ar unrhyw adeg ar ôl i’r cynnig cyllideb blynyddol gael ei basio.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.31   Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i ategu cynnig cyllideb atodol gynnwys unrhyw amrywiadau ar yr hyn a ddarparwyd yn unol â Rheol Sefydlog 20.28.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.32 Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb y Comisiwn, rhaid i aelod o’r Comisiwn osod memorandwm esboniadol yn nodi pam mae angen yr amrywiad.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.33   Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.30 gael ei wneud naill ai:

(i)      nes bod y pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)     nes bod tair wythnos wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw’r pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.34   Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell newidiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol ar yr amod na fyddai effaith net yr amrywiadau hynny’n cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.35   Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb yr Archwilydd Cyffredinol Swyddfa Archwilio Cymru:

(i)       rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ddarparu memorandwm esboniadol ar y cyd i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) yn nodi pam mae angen amrywio’r gyllideb;

(ii)      caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) gyflwyno adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i’r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i’r amrywiad arfaethedig sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii), ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo ganddynt.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith fod Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol, o Fis Ebrill 2014, i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru fod yn gyfrifol ar y cyd am gynnig cyllideb Swyddfa Archwilio Cymru.

20.36   Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb yr Ombwdsmon:

(iii)          rhaid i’r Ombwdsmon ddarparu memorandwm esboniadol i’r pwyllgor cyfrifol yn nodi pam mae angen amrywio’r gyllideb;

(iv)          caiff y pwyllgor cyfrifol gyflwyno gerbron y Cynulliad adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i’r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno.  Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i’r amrywiad arfaethedig sy’n briodol ym marn y Pwyllgor Cyllid, ar ôl iddo ymgynghori â’r Ombwdsmon ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

20.37   Dim ond un o Weinidogion Cymru sy’n cael gwneud cynnig cyllideb atodol. Ni chaniateir i welliannau gael eu cyflwyno na’u cynnig ac eithrio gan un o Weinidogion Cymru. 

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Defnyddio Gormod o Adnoddau

Nid oes angen ei ddiwygio.

20.38  Mae Rheol Sefydlog 20.39 yn gymwys os bydd cyfrifon archwiliedig y Comisiwn, yr Archwilydd Cyffredinol Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Ombwdsmon ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol yn cofnodi bod gormod o adnoddau wedi’u defnyddio o gymharu â’r symiau a awdurdodwyd neu y barnwyd o dan y Ddeddf eu bod wedi’u hawdurdodi gan benderfyniadau cyllideb y Cynulliad.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae hyn yn adlewyrchu’r newid o’r Archwilydd Cyffredinol i Swyddfa Archwilio Cymru o fis Ebrill 2014.

20.39   Os bydd y Comisiwn, yr Archwilydd Cyffredinol Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Ombwdsmon yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol yn gofyn am awdurdodiad ôl-weithredol ar gyfer gormodeddau a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig y person hwnnw.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae hyn yn adlewyrchu’r newid o Archwilydd Cyffredinol Cymru i Swyddfa Archwilio Cymru o fis Ebrill 2014.

20.40   Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.39 gael ei wneud naill ai:

(i)      nes bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw’n ymwneud â’r Archwilydd Cyffredinol â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)      nes bod chwe mis wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw’n ymwneud â’r Archwilydd Cyffredinol â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

Diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Mae hyn yn adlewyrchu’r newid o’r Archwilydd Cyffredinol i Swyddfa Archwilio Cymru o fis Ebrill 2014.

20.41   Nid yw Rheolau Sefydlog 20.30 i 20.36 yn gymwys i gynigion a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.39.

Nid oes angen diwygio’r Rheol Sefydlog hon.

Atodiad D

RHEOL SEFYDLOG 18 – Cyfrifon Cyhoeddus a Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

Cyffredinol

18.1   Wrth gynnig cylchoedd gorchwyl pwyllgorau o dan Reol Sefydlog 16.2 neu 16.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes sicrhau:

(i)        bod pwyllgor (y cyfeirir ato fel “y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus” yn unol ag adran 30 o’r Ddeddf) sydd â chyfrifoldeb dros y swyddogaethau a ragnodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3; a

(ii)       bod y cyfrifoldeb dros y swyddogaethau a bennir yn Rheolau Sefydlog 18.10 a 18.11 mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cael ei aseinio i bwyllgor (y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 18 fel “pwyllgor cyfrifol”).

Swyddogaethau’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

18.2   Rhaid i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (“y Pwyllgor”):

(i)            cyflwyno sylwadau i’r Archwilydd Cyffredinol o dro i dro ar sut mae’r Archwilydd Cyffredinol yn arfer ei bwerau i gynnal ymchwiliadau i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd; a

(ii)          ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau y tu hwnt i’r hyn a awdurdodwyd neu y bernir ei fod wedi’i awdurdodi ac a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig Gweinidogion Cymru, y Comisiwn, neu’r Ombwdsmon, a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y defnydd hwnnw, gan argymell a ddylai’r Cynulliad awdurdodi’r gormodeddau yn ôl-weithredol drwy gyfrwng penderfyniad cyllideb atodol.

18.3   Caiff y Pwyllgor: 

(i)        ystyried dogfennau a osodir gerbron y Cynulliad gan yr Archwilydd Cyffredinol a chyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad ar y dogfennau hynny yn unol ag adran 143(1) o’r Ddeddf;

(ii)       ystyried unrhyw ddogfen arall sy’n ymwneud â rheolaeth ariannol, cyfrifyddu ac archwilio mewn perthynas â gwariant cyhoeddus (ac eithrio’r rhai sy’n ymwneud â llywodraethu mewnol Swyddfa Archwilio Cymru) a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y ddogfen honno; a

(iii)      cymryd tystiolaeth a chyflwyno adroddiadau i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin os bydd y Pwyllgor hwnnw yn gofyn iddo wneud hynny.

18.4   Wrth gyflawni ei gyfrifoldebau o dan Reol Sefydlog 18.3(i) neu 18.3(ii), rhaid i’r Pwyllgor beidio ag amau rhagoriaethau amcanion polisi y llywodraeth, nac amcanion polisi unrhyw gorff neu berson arall sy’n destun adroddiad y Pwyllgor.

Aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

18.5  Mae Rheolau Sefydlog 17.3 a 17.7 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio bod yn rhaid iddo gynnwys o leiaf 5 aelod a dim mwy na 10 aelod ac na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei gynnig yn aelod o’r Pwyllgor.

18.6  Mae Rheol Sefydlog 17.21 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio bod yn rhaid iddo beidio â chael ei gadeirio gan Aelod sy’n aelod o grŵp gwleidyddol a chanddo rôl weithredol.

18.7  Mae Rheol Sefydlog 17.48 yn gymwys i’r Pwyllgor, ac eithrio na chaniateir i’r un person a bennir yn adran 30(3) o’r Ddeddf gael ei enwebu yn gynrychiolydd.

18.8  Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater os mai ef neu hi oedd yr aelod o’r llywodraeth a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y mater hwnnw ar yr adeg berthnasol.

18.9  Ni chaiff aelod o’r Pwyllgor gymryd rhan yn ystyriaeth y Pwyllgor ar unrhyw fater a oedd o fewn cyfrifoldeb Pwyllgor y Tŷ (fel yr oedd wedi’i gyfansoddi rhwng 18 Rhagfyr 2002 a 2 Mai 2007), neu sydd o fewn cyfrifoldeb y Comisiwn, os oedd yr aelod ar yr adeg berthnasol yn aelod o Bwyllgor y Tŷ neu o’r Comisiwn.

Swyddogaethau Pwyllgor mewn Perthynas â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

18.10 Rhaid i bwyllgor cyfrifol:

(i)            arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynglŷn â’r amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer pob blwyddyn ariannol;

(ii)          ystyried unrhyw gynigion cyllideb atodol a gyflwynir o dan adran 126 o’r Ddeddf ac sy’n ceisio diwygio symiau a awdurdodwyd o’r blaen drwy benderfyniad cyllideb neu benderfyniad cyllideb atodol mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru;

(iii)         ystyried unrhyw ddefnydd ar adnoddau y tu hwnt i’r hyn a awdurdodwyd neu y bernir ei fod wedi’i awdurdodi ac a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig Swyddfa Archwilio Cymru, a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y defnydd hwnnw, gan argymell a ddylai’r Cynulliad awdurdodi’r gormodeddau yn ôl-weithredol drwy gyfrwng penderfyniad cyllideb atodol;

(iv)         yn unol â Rheol Sefydlog 10, cynghori’r Cynulliad wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru;

(v)          arfer y swyddogaethau o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo aelodau anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru ac eithrio’r cadeirydd, a dynodi Archwilydd Cyffredinol dros dro. Nid yw Rheol Sefydlog 10 yn gymwys i’r penodiadau hyn;

(vi)         arfer y swyddogaethau o dan baragraff 34 o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phenodi archwilydd cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru. Nid yw Rheol Sefydlog 10 yn gymwys i’r penodiad hwn;

(vii)        arfer y swyddogaethau a nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 ynglŷn â gwneud trefniadau ar gyfer talu cydnabyddiaeth o ran yr Archwilydd Cyffredinol, ac o ran y cadeirydd ac aelodau anweithredol eraill Swyddfa Archwilio Cymru;

(viii)      arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraffau 8 a 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â phennu telerau penodi eraill ar gyfer penodiad i Swyddfa Archwilio Cymru;

(ix)         arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff 1(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chymeradwyo Cod Ymarfer sy’n ymdrin â’r berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru;

(x)          arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chymeradwyo cynllun ar gyfer codi ffioedd gan Swyddfa Archwilio Cymru;

(xi)         arfer y swyddogaethau a nodir yn adran 5(3) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 sy’n ymwneud â chyhoeddi rhestr o swyddi, cytundebau a threfniadau eraill a bennir at ddibenion adran 5(2) o’r Ddeddf honno.

18.11 Caiff pwyllgor cyfrifol ystyried materion ynghylch llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru ac ynghylch goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol, gan gynnwys:

(i)        ystyried y Cynllun Blynyddol a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru gerbron y Cynulliad o dan adran 26 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar y cynllun hwnnw;

(ii)       cynghori archwilydd Swyddfa Archwilio Cymru ar yr ymchwiliadau sydd i’w cynnal o dan baragraff 35(7) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;

(iii)      ystyried dogfennau a osodir gerbron y Cynulliad gan archwilydd cyfrifon Swyddfa Archwilio Cymru o dan baragraffau 35(2) a 35(7) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad ar y dogfennau hynny;

(iv)      ystyried yr Adroddiad Blynyddol ac unrhyw adroddiadau interim a osodir ar y cyd gan yr Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru gerbron y Cynulliad o dan baragraff 3(6) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, a chyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad ar yr adroddiadau hynny;

(v)       pennu dyddiadau i’r Archwilydd Cyffredinol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru osod adroddiadau interim ar y cyd gerbron y Cynulliad, yn unol â Pharagraff 3(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Newidiadau Canlyniadol

Y Weithdrefn Ariannol

Yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru

20.21 Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru osod yr amcangyfrif o incwm a gwariant sy’n ofynnol o dan adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 gerbron y Cynulliad, a hynny ar y cyd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ond heb fod yn hwyrach na 1 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol beth bynnag.

20.22 Rhaid i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(i) ystyried adroddiad sy’n cynnwys yr amcangyfrif a’i osod gerbron y Cynulliad heb fod yn hwyrach na 22 Tachwedd, gydag unrhyw ddiwygiadau sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol, ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ganddynt.

Cynigion Cyllideb Blynyddol

20.25 Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol sy’n ofynnol o dan adran 125 o’r Ddeddf gael ei gyflwyno gan un o Weinidogion Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.2 (neu Reol Sefydlog 20.6). 

20.26 Rhaid i gynnig cyllideb blynyddol ymgorffori:

(i)     cyllideb derfynol y llywodraeth;

(ii)    cyllideb derfynol y Comisiwn fel y cytunwyd arni gan y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.16 neu 20.17, neu fel y’i pennwyd o dan Reol Sefydlog 20.19;

(iii)   amcangyfrif Swyddfa Archwilio Cymru, fel y’i gosodwyd gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.22; a

(iv)   amcangyfrif yr Ombwdsmon, fel y’i gosodwyd gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 20.24.

20.27 Caiff cynnig cyllideb blynyddol ymgorffori hefyd unrhyw gynnig ar gyfer penderfyniad sydd i’w wneud ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol o dan adran 120(2)(a) o’r Ddeddf.

20.28 Rhaid i’r wybodaeth a gynhyrchir i ategu cynnig cyllideb blynyddol gynnwys y canlynol o leiaf:

(i)        y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o’r Ddeddf;

(ii)       yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb y bloc Cymreig am y flwyddyn ariannol sydd o dan sylw yn y cynnig;

(iii)      cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb y bloc Cymreig gan y Trysorlys a’r adnoddau sydd i’w hawdurdodi i’w defnyddio yn y cynnig; 

(iv)      cysoniad rhwng yr amcangyfrif o’r symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o’r Gronfa yn y cynnig; a

(v)       cysoniad rhwng yr adnoddau sydd i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

20.29 Dim ond un o Weinidogion Cymru a gaiff wneud cynnig cyllideb blynyddol.  Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig cyllideb blynyddol.   

Cynigion Cyllideb Atodol

20.30 Caiff un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol o dan adran 126 ar unrhyw adeg ar ôl i’r cynnig cyllideb blynyddol gael ei basio.

20.31 Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i ategu cynnig cyllideb atodol gynnwys unrhyw amrywiadau ar yr hyn a ddarparwyd yn unol â Rheol Sefydlog 20.28.

20.32 Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb y Comisiwn, rhaid i aelod o’r Comisiwn osod memorandwm esboniadol yn nodi pam mae angen yr amrywiad.

20.33 Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.30 gael ei wneud naill ai:

(i)     nes bod y pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)     nes bod tair wythnos wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw’r pwyllgor cyfrifol wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.

20.34 Caiff adroddiad y pwyllgor cyfrifol argymell newidiadau yn y symiau a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol ar yr amod na fyddai effaith net yr amrywiadau hynny’n cynyddu neu’n gostwng cyfansymiau’r adnoddau neu’r arian parod a gynigiwyd yn y cynnig cyllideb atodol.

20.35 Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb Swyddfa Archwilio Cymru:

(i)     rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ddarparu memorandwm esboniadol ar y cyd i’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) yn nodi pam mae angen amrywio’r gyllideb;

(ii)     caiff y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii) gyflwyno adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i’r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i’r amrywiad arfaethedig sy’n briodol ym marn y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(ii), ar ôl iddo ymgynghori â’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddynt.

20.36 Os yw’r cynnig cyllideb atodol yn cynnig amrywio cyllideb yr Ombwdsmon:

(i)            rhaid i’r Ombwdsmon ddarparu memorandwm esboniadol i’r pwyllgor cyfrifol yn nodi pam mae angen amrywio’r gyllideb; 

(ii)          caiff y pwyllgor cyfrifol gyflwyno gerbron y Cynulliad adroddiad ar yr amrywiad arfaethedig o fewn tair wythnos ar ôl i’r cynnig cyllideb atodol gael ei gyflwyno. Caiff yr adroddiad gynnig unrhyw ddiwygiadau i’r amrywiad arfaethedig sy’n briodol ym marn y Pwyllgor Cyllid, ar ôl iddo ymgynghori â’r Ombwdsmon ac ystyried unrhyw sylwadau a wnaed ganddo.

20.37 Dim ond un o Weinidogion Cymru sy’n cael gwneud cynnig cyllideb atodol. Ni chaniateir i welliannau gael eu cyflwyno na’u cynnig ac eithrio gan un o Weinidogion Cymru.   

Defnyddio Gormod o Adnoddau

20.38 Mae Rheol Sefydlog 20.39 yn gymwys os bydd cyfrifon archwiliedig y Comisiwn, Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Ombwdsmon ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol yn cofnodi bod gormod o adnoddau wedi’u defnyddio o gymharu â’r symiau a awdurdodwyd neu y barnwyd o dan y Ddeddf eu bod wedi’u hawdurdodi gan benderfyniadau cyllideb y Cynulliad.

20.39 Os bydd y Comisiwn, Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Ombwdsmon yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i un o Weinidogion Cymru gyflwyno cynnig cyllideb atodol yn gofyn am awdurdodiad ôl-weithredol ar gyfer gormodeddau a gofnodwyd yng nghyfrifon archwiliedig y person hwnnw.

20.40 Ni chaniateir i gynnig cyllideb atodol a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 20.39 gael ei wneud naill ai:

(i)     nes bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw’n ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig; neu

(ii)    nes bod chwe mis wedi mynd heibio ar ôl iddo gael ei gyflwyno, os nad yw’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu’r pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 18.10(iv) os yw’n ymwneud â Swyddfa Archwilio Cymru, wedi cyflwyno adroddiad ar y cynnig.